"Beth yw Vim?" Esboniad yn chwe kilobeit. Vim ("Vi IMproved") ydy "clo^n vi", sef rhaglen tebyg i'r golygydd testun "vi". Mae Vim yn gweithio yn modd testun ym mhob terfynell, ond hefyd mae gynno fo ryngwyneb defnyddiwr graffig (GUI), sef dewislenni a chefnogaeth i'r llygoden. Caffaeledd: Mae Vim ar gael ar gyfer lawer blatfform, efo llawer o nodweddion newydd o'i cymharu efo Vi. (Gweler http://www.vim.org/viusers.php). Mae Vim yn gytu^n efo bron pob orchymyn Vi - ac eithrio'r bygiau. ;-) Systemau Weithredu: Mae Vim ar gael ar gyfer llawer system weithredu: AmigaOS, Atari MiNT, BeOS, DOS, MacOS, NextStep, OS/2, OSF, RiscOS, SGI, UNIX, VMS, Win16 + Win32 (Windows95/98/00/NT) - ac yn arbennig FreeBSD a Linux. :-) Hawlfraint: Mae'r hawlfraint yn nwylo'r prif awdur a chynhaliwr , Bram Moolenaar . Mae Vim yn "charity-ware", sef croeso i chi wneud rhodd ar gyfer plant amddifad yn Uganda (gweler ":help uganda"). Tarddiad: Mae Vim yn TarddiadAgored (OpenSource) a chroeso i bawb i helpu ei wella! === Nodweddion Golygydd i ddechreuwyr - Cyfeillgar Mae Vim yn llawer haws ar gyfer ddechreuwyr na Vi, yn achos ei Help Arlein helaeth, gorchmynion "dadwneud" ac "ailwneud" (peidiwch a phoeni am gamgymeriadau - dim ond defnyddiwch dadwneud+ailwneud), cefnogaeth i'r llygoden a delwau a dewislenni ffurffweddiol (GUI). Codau Nodau a Therfynellau: Mae Vim yn cefnogi set nodau iso-latin1 a termcap. (mae gan Vi fanila broblemau efo hyn.) Nodau a Ieithoedd: Mae Vim yn cefnogi golygu de-i-chwith (ee. efo Arabeg, Ffarsi, Hebraeg), a thestunau aml-beit, sef ieithoedd efo nodau graffig wedi'u cynrychioli gan mwy nag un "beit", fel Tseineeg, Japaneaidd, Korean (Hangul), (a siarad yn dechnegol, mae Vim yn cefnogi testun yn UTF-8 a Unicode.) Fformatio Testun a Modd Gweledol: Efo Vim medrwch chi ddewis testun yn weledol (efo amlygu) cyn i chi "weithio" arno fo, ee. copi, dileu, amnewid, syflyd i'r dde neu i'r chwith, newid achos llythrennau neu fformat y testun, yn cynnwys cadw testun wedi'i fewnoli. Mae Vim yn caniatau detholiadau a gweithredoedd ar flociau petryalog, hefyd. Gorchmynion Cwblhad: Mae gan Vim orchmynion sy'n cwblhau eich mewnbwn - naill ai efo gorchmynion, enwau ffeil neu eiriau. Gorchmynion Awtomatig: Mae gan Vim "awto-orchmynion" hefyd, ar gyfer weithrediad o orchmynion (ee. dadgywasgiad awtomatig o ffeiliau cywasgedig). Mewnbwn Deugraffau: Mae Vim yn eich caniatau i roi i mewn nodau arbennig efo cyfuniad o ddau nod (ee. cyfuniad o " ac a yn cynhyrchu \xe4) - ac yn caniatau diffinio cyfuniadau eraill hefyd. Datgeliad a Thrawsnewidiad Fformat Ffeiliau: Mae Vim yn adnabod yn awtomatig math ffeiliau (DOS, Mac, Unix) ac yn caniatau i chi arbed nhw mewn unrhyw fformat arall - dim rhaid i unix2dos ar Windows o hyn ymlaen! Hanes: Mae gan Vim "hanes" ar gyfer gorchmynion a chwiliadau, er mwyn i chi medru atgofio gorchmynion neu batrwmau chwilio blaenorol a'u golygu nhw. Recordio Macros: Mae Vim yn caniatau "recordio" eich golygu, er mwyn ailchwarae tasgau eilaidd. Terfynau Cof: Mae gan Vim terfynau cof llawer uwch na Vi fanilla ar gyfer hyd leiniau a maint byfferau. Byfferau Amryfal a Sgrin Hollt: Mae Vim yn caniatau i chi golygu byfferau amryfal, a medrwch chi hollti'r sgrin i mewn llawer o is-ffenestri (llorweddol a fertigol), er mwyn i chi medru gweld llawer o ffeiliau neu lawer rhan o sawl ffeiliau. Rhagddodiad Rhif i Orchmynion: Mae Vim yn caniatau rhagddodiad rhif efo mwy o orchmynion na Vi (ee. efo "rhoi"). Ffeiliau Amser Rhedeg (Ffeiliau Cymorth a Cystrawen): [Ffeiliau ychwanegol sy'n cael eu defnyddio tra bod y rhaglen yn rhedeg ond sy ddim yn cynnwys co^d sy'n gorfod cael ei grynhoi a'i gysylltu.] Mae'na 70 o ffeiliau cymorth (tua 2080K o destun) efo Vim-5.7, ar orchmynion, dewision, a chyngor ar ffurfweddu a golygu. (Vim-6.0x [010311]: 85 o ffeiliau, tua 2796K o destun.) Mae rhai ffeiliau yn benodol i ddefnyddio Vim ar bob system weithredu [010311]. Sgriptio: Mae gan Vim iaith sgriptio wedi'i ymgorffori er mwyn estyn yn hawdd. Atred Chwilio: Mae Vim yn caniatau atredau ar gyfer orchmynion chwilio, felly dach chi'n rhoi'r rhedwr *ar o^l* y testun wedi'i ddarganfod. Adferiad Sesiwn: Mae Vim yn caniatau cadw gwybodaeth o sesiwn golygu i mewn ffeil ("viminfo") i gael ei ddefnyddio efo'r sesiwn golygu nesaf, ee. rhestr byffer, marciau ffeil, cofrestri, hanes gorchmynion a chwilio. Ehangiad Tabiau: Mae Vim yn medru ehangu tabiau i mewn y testun efo bylchau (expandtab, :retab). System Tag: Mae Vim yn cynnig dod o hyd i destun yn ffeiliau gan ddefnyddio mynegai efo "tagiau" ynghyd a llawer o orchmynion stac tagiau. Gwrthrychau Testun: Mae Vim yn nabod mwy o wrthrychau testun (paragraffau, brawddegau, geiriau a GEIRIAU - popeth efo a heb bylchau gwyn o'u cwmpas) ac yn caniatau ffurfweddu diffiniad y gwrthrychau hyn. Lliwiad Cystrawen: Mae Vim yn dangos testun mewn lliwiau - yn o^l ei "iaith (rhaglennu)". Medrwch chi diffinio "iaith" ("cystrawen") y ffeiliau eich hun. Mae Vim yn dod efo 200+ o ffeiliau cystrawen ar gyfer lliwio testun mewn ieithoedd rhaglennu cyffredin (Ada, C, C++, Eiffel, Fortran, Haskell, Java, Lisp, Modula, Pascal, Prolog, Python, Scheme, Smalltalk, SQL, Verilog, VisualBasic), rhaglenni mathemategol (Maple, Matlab, Mathematica, SAS), testun markup (DocBook, HTML, LaTeX, PostScript, SGML-LinuxDoc, TeX, WML, XML), allbwn rhaglenni (diff, man), ffeiliau lwytho rhaglenni (4DOS, Apache, autoconfig, BibTeX, CSS, CVS, elm, IDL, LILO, pine, procmail, samba, slrn), sgriptiau plisgyn (shells: sh, bash, csh, ksh, zsh), ieithoedd sgriptio (awk, Perl, sed, yacc) ffeiliau system (printcap, .Xdefaults) ac, wrth gwrs, Vim a'i destunau cymorth. Co^d Arbennig: Mae gan Vim gyfannu dewisol efo Perl, Tcl a Python. Mae Vim yn medru actio fel gweinyddwr awtomasiwn OLE o dan Windows. Mae hi'n bosib hefyd arsefydlu Vim efo co^d ar gyfer X-windows, sy'n ychwanegu dewislenni ffurfweddiol a chefnogaeth i'r llygoden. A mwy. Llawer mwy! === Cysylltau Gwefan Vim ar y we fyd-eang: http://www.vim.org/ I ddisgryfiad mwy fanwl o nodweddau Vim, gweler y dudalen: http://www.vim.org/about.php === Awdur a Chyfiethiwr Gwaith gwreiddiol gan: Sven Guckes guckes@vim.org Diweddariad diwethaf: Mon Mar 12 07:00:00 MET 2001 Wedi'i gyfiethu gan: Magnus Forrester-Barker magnuscanis@linuxmail.org Diweddariad diwethaf: Dydd Mawrth, 2002-01-08 vim: tw=70